Browser does not support script.

Croeso i'r Porwr Cynllunio

Cyn defnyddio'r wefan hon darllenwch y wybodaeth isod am fynediad cyhoeddus i wybodaeth cynllunio.

Mae'r gwasanaeth cynllunio ar-lein yn caniatáu i chi wneud y canlynol:

  • Chwilio am geisiadau cynllunio.
  • Gweld manylion am geisiadau cynllunio a dderbyniwyd ers mis Hydref 1998.
  • Gweld dogfennau yn ymwneud â cheisiadau cynllunio a dderbyniwyd ar ôl 15 Gorffennaf 2013.
  • Canfod statws cais cynllunio.

Cyhoeddi sylwadau ar geisiadau cynllunio

Os ydych chi'n cyflwyno unrhyw sylwadau ar gais cynllunio, byddant yn cael eu cyhoeddi ar ein tudalennau gwe. Ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw rai gyda chynnwys difenwol, hiliol neu anweddus, nac ychwaith 'rheiny sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol, sensitif. Mae rhagor o wybodaeth i'w gweld ar ein tudalen we Rhoi Sylw ar Gais Cynllunio.

Ymwrthodiad

Dim ond cofnodion yr ydym yn eu cadw ar gyfrifiadur sydd ar y safle hwn, ac felly nid yw'n gronfa ddata gyflawn o'r holl wybodaeth sy'n cael ei chadw gennym. Peidiwch â dibynnu ar y wybodaeth fel dewis arall yn lle chwiliadau traddodiadol a ddylai barhau i gael eu defnyddio at ddibenion Chwiliadau Tir swyddogol.

Er ein bod yn cymryd cryn ofal i sicrhau bod yr holl wybodaeth ar y wefan hon yn gywir, ni all y Cyngor gymryd unrhyw gyfrifoldeb na bod yn atebol os byddwch yn dibynnu ar y wybodaeth a ddarperir cyn sylweddoli nad yw'n gywir.

Oherwydd cyfyngiadau technegol, nid ydym yn gallu darparu peth o'r data ar y dudalen hon yn Gymraeg. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

Mae’r dogfennau canlynol yn ymwneud â Cheisiadau Cynllunio a dderbyniwyd ar ôl 15 Gorffennaf 2013 ar gael ar-lein.

Bydd dogfennau yn ymwneud â Cheisiadau Cynllunio rhwng Hydref 1998 a 15 Gorffennaf 2013 ar gael ar-lein mewn amser. Edrychwch am y dogfennau hyn ar-lein ac os nad oes modd eu gweld yna cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at gwasanaethau.rheoleiddio@conwy.gov.uk.

Os oes gennych unrhyw reswm i amau nad yw'r wybodaeth yn gywir, cysylltwch â ni ar unwaith drwy anfon e-bost at gwasanaethau.rheoleiddio@conwy.gov.uk.

Rhybudd hawlfraint

Mae cynlluniau, darluniau a deunydd arall a gyflwynir i'r awdurdod lleol yn cael eu diogelu gan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 (adran 47).

Gallwch ddefnyddio deunydd sydd wedi'i lawrlwytho a/neu wedi'i argraffu at ddibenion ymgynghori'n unig, i gymharu ceisiadau cyfredol â chynlluniau blaenorol ac i wirio a yw datblygiadau wedi'u cwblhau yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd.

Ni ellir gwneud rhagor o gopïau heb ganiatâd ymlaen llaw gan berchennog yr hawlfraint.

Rhagor o Wybodaeth

Rhoi sylw ar Gais Cynllunio

Porwr Cynllunio - Canllawiau chwilio

Porwr Cynllunio - Cwestiynau cyffredin